Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015
Amser: 08.30 -
08.36
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru |
Roedd Richard Ward, Clerc y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, yn bresennol yn y cyfarfod fel rhan o ymweliad deuddydd â'r Cynulliad tra bod y Senedd wedi cael ei diddymu.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 20 Mai 2015 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 29 Ebrill i gyfeirio'r Bil Amgylchedd (Cymru) i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 9 Hydref 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 4 Rhagfyr 2015.